Ken Livingstone - wedi ymddiheuro (Fforwm Economaidd y Byd CCA 2.0)
Mae cyn-Faer Llundain, Ken Livingstone, wedi ymddiheuro “yn ddiamod” i un o lefarwyr mainc flaen y Blaid Lafur sy’n diodde’ o iselder – a hynny ar ôl awgrymu ei fod angen help seiciatrig.

Fe ddaeth y datganiad ar y wefan gymdeithasol Twitter ar ôl beirniadaeth gan aelodau seneddol Llafur a galwad iddo ymddiheuro gan arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn.

Roedd y ffrae wedi codi ar ôl i Kevan Jones, y llefarydd Llafur ar amddiffyn, feirniadu’r penderfyniad i gael Ken Livingstone yn gyd-gadeirydd ar arolwg y blaid o bolisi amddiffyn.

Yr ymddiheuriad

“Dw i’n ymddiheuro’n ddiamod i Kevan Jones am fy sylwadau,” meddai Ken Livingstone. “Ddylen nhw ddim bod wedi cael eu gwneud o gwbl, heb sôn am fod yn y cyd-destun yma.

“Dw i hefyd ym ymddiheuro achos mae Jeremy’n iawn i fynnu cael gwleidyddiaeth fwy cwrtais ac fe ddylen ni, fel plaid, gymryd hynny o ddifri.”

Roedd Kevan Jones a rhai aelodau Llafur eraill wedi beirniadu’r penderfyniad i ddewis Ken Livingstone oherwydd ei fod mor amlwg yn ei wrthwynebiad i arfau niwclwar Trident.