Mae bachgen 16 oed wedi cael ei saethu’n farw yn Lerpwl, meddai Heddlu Glannau Mersi.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o saethu ger camlas yng Nghwrt Burrows, Eldonian Village, yn ardal Vauxhall yn Lerpwl toc cyn 11.20yh nos Sul.

Roedd aelod o’r cyhoedd wedi dod o hyd i’r bachgen a chafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Lerpwl, lle bu farw’n fuan wedyn.

Mae teulu’r bachgen wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae timau fforensig ar y safle ac mae swyddogion yn gwneud ymholiadau o dy i dy i geisio darganfod beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar  0800 230 0600, neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.