Mae un o’r dynion o wledydd Prydain fu farw yn y gyflafan yn neuadd Bataclan ym Mharis wedi cael ei ddisgrifio gan ffrind fel “ffrind gorau i bawb”.

Bu farw Nick Alexander, 36, yn ystod cyngerdd y band Americanaidd ‘Eagles of Death Metal’ nos Wener.

Roedd yn gwerthu nwyddau’r band yn y neuadd pan ymosododd brawychwyr ar yr adeilad, gan gymryd gwystlon a saethu at y dorf.

Dywedodd Helen Wilson wrth bapur newydd y Telegraph fod y ddau, oedd unwaith yn gariadon, yn gorwedd ar lawr y neuadd wrth i hyd at chwech o frawychwyr saethu at y dorf.

Cafodd hi ei saethu yn ei choes ac ymdrechodd hi i roi triniaeth i Nick Alexander.

Dywedodd hi: “Yna, doedd e ddim yn gallu anadlu rhagor ac fe wnes i ei ddal yn fy mreichiau a dweud wrtho ’mod i’n ei garu.”

Mewn datganiad, dywedodd teulu Nick Alexander: “Nid brawd, mab ac ewythr yn unig oedd Nick i ni, roedd e’n ffrind gorau i bawb – yn hael, yn ddoniol ac yn deyrngar dros ben.

“Bu farw Nick yn gwneud y swydd yr oedd yn ei charu ac mae cysur i ni o wybod cymaint roedd ei ffrindiau o amgylch y byd yn ei garu.

“Diolch am eich meddyliau a’ch parch i’n teulu ar yr adeg anodd hon. Heddwch a goleuni.”

“Cysga’n dawel, fy nhywysog addfwyn” oedd neges ei gariad, Polina Buckley ar wefan Twitter.

Dywedodd hyrwyddwr cerddoriaeth prosiect Africa Express, Ian Birrell fod Nick Alexander yn “arwr”.

“Roedd e’n caru cerddoriaeth, yn byw gyda gwên ar ei wyneb, a bu farw’n arwr.”

Mae nifer o fandiau hefyd wedi talu teyrngedau iddo.