Mae lle i gredu mai pedwar o bobol o’r un teulu fu farw yn dilyn damwain awyr yng Ngwlad yr Haf fore Sadwrn.

Cafodd dau ddyn a dwy ddynes eu lladd pan blymiodd yr awyren chwe sedd i’r ddaear ger Taunton toc cyn 11.45yb.

Roedd yr awyren ar ei ffordd o Swydd Surrey i Ddyfnaint.

Dydy’r meirw ddim wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ond mae lle i gredu mai dau ddyn 56 a 20 oed a dwy ddynes 55 a 23 oed ydyn nhw.

Bu farw’r pedwar yn y fan a’r lle.

Mae ymchwiliad ar y gweill.