Jeremy Corbyn
Mae’r ymosodiadau terfysgol ym Mharis wedi gorfodi Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, i roi o’r neilltu araith yr oedd yn bwriadu ei thraddodi heddiw yn awgrymu fod cyrchoedd bomio gan Brydain yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) yn Syria wedi gwneud bywyd yn beryclach.

Roedd disgwyl i Jeremy Corbyn siarad allan yn erbyn cyfres o ‘ryfeloedd’ dros y 14 blynedd diwetha’, gan gyfeirio at y cyrchoedd presennol yn Syria, Afghanistan ac Irac.

Mae darnau o’r araith, a gafodd eu rhannu allan i’r wasg a’r cyfryngau o flaen llaw, yn dangos ei fod yn bwriadu defnyddio iaith gref iawn i feirniadu’r modd y mae Prydain wedi’i chael ei hun yn rhan o’r ymosodiadau yn erbyn ISIS yn Irac. Mae wedi dweud cyn hyn y dylai Prydain “edrych eto” ar ei rhan yn yr ymgyrch fomio yn erbyn ISIS.

Yn yr araith yng nghynhadledd Dwyrain Lloegr y Blaid Lafur, roedd disgwyl iddo ddweud: “Am y 14 blynedd diwetha’, mae prydain wedi bod yng nghanol cyfres o ryfeloedd trychinebus sydd wedi achosi llanast mewn rhannau helaeth o’r Dwyrain Canol.

“Mae’r rhyfeloedd hyn wedi cynyddu… y bygythiadau i’n diogelwch cenedlaethol…”

Roedd disgwyl iddo hefyd alw am “fath gwahanol o bolisi tramor – wedi’i seilio ar berthynas newydd, mwy annibynnol, gyda gweddill y  byd.”