Ban Ki-Moon, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
Mae arweinwyr gwledydd y byd wedi mynegi eu sioc a’u dicter mewn ymateb i’r ymosodiadau terfysgol ym Mharis.

Mae David Cameron wedi addo “gwneud beth bynnag allwn ni i helpu” Ffrainc yn dilyn y ffrwydro a’r saethu, ac mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi galw’r trais yn “ymosodiad ar ddynoliaeth gyfan”.

Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel is “wedi’i hysgwyd” gan yr ymosodiadau, gan addo sefyll ysgwydd ag ysgwydd gyda Ffrainc.

Meddai llefarydd ar ran Ysgrifennydd Cyffresinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon: “Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol am fynegi ei gydymdeimlad dwysaf gyda theuluoedd y dioddefwyr, ac mae’n dymuno gwellhad buan i’r rheiny gafodd eu hanafu. Mae’n sefyll gyda llywodraeth a phobol Ffrainc.”