Becky Watts
Mae Nathan Matthews wedi ei ddedfrydu i dreulio o leiaf 33 o flynyddoedd dan glo am lofruddio ei lyschwaer Becky Watts.

Bydd ei gariad Shauna Hoare yn y carchar am 17 mlynedd wedi iddi gael ei chanfod yn euog o ddynladdiad y ferch 16 oed.

Wedi’r ddedfryd yn Llys y Goron Bryste roedd y Barnwr Dingemans yn ei ddagrau wrth iddo dalu teyrnged i deulu Becky Watts.

Roedd Nathan Matthews, 28, a’r gariad 21 oed wedi targedu Becky Watts am nad oedden nhw’n ei hoffi ac oherwydd bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn merched bach o gorff.

Fe aethon nhw i gartref Becky Watts ym Mryste ar Chwefror 19 gyda’r bwriad o’i herwgipio hi.

Yn ôl ditectifs mae’n bosib na fydd y gwirionedd ynghylch union beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw yn dod i’r fei.

Fe ddaeth patholegydd i’r casgliad ei bod wedi ei chrogi i farwolaeth.

Fe ddioddefodd dros 40 o anafiadau i’w chorff wrth iddi frwydro am ei bywyd yn erbyn Nathan Matthews, dyn gydag obsesiwn â phornograffi.

Ar ôl ei lladd, bu i Matthews a’i gariad dorri corff Becky Watts yn ddarnau gyda lli yn yr ystafell ymolchi yn eu cartref.

Wrth ddedfrydu Matthews i 33 o flynyddoedd dan glo, fe ddywedodd y Barnwr Dingemans: “Mae’r ddedfryd yn golygu y bydd Mr Matthews, ac yntau’n ddyn 28 oed, yn 61 cyn y bydd posibilrwydd o ystyried ei ryddhau a’r realiti yw ei bod yn ddigon posib na chaiff fyth fynd yn rhydd.”