Mae un o sêr rygbi Lloegr wedi ei gyhuddo o yfed a gyrru yn dilyn damwain yn oriau mân y bore.

Roedd Danny Cipriani yn gyrru Mercedes am bump y bore ar Fehefin y 1af yn Chelsea yng ngorllewin Llundain, pan darodd Toyota Prius.

Profwyd anadl y chwaraewr 28 oed ar y pryd, a ddoe fe gadarnhaodd Heddlu Scotland Yard ei fod wedi ei gyhuddo o yfed a gyrru.

Bydd yn ymddangos ger bron Llys Ynadon ar Ragfyr y 10fed.