Fe allai tîm dan-21 Cymru gymryd cam arall tuag at Bencampwriaethau Ewrop 2017 gyda buddugoliaeth yn erbyn Armenia yn Nantporth y prynhawn yma.

Tra bod y tîm cyntaf yn herio’r Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd sêr ifanc Cymru yn gobeithio parhau â’r dechrau da i’w hymgyrch ragbrofol hyd yn hyn.

Mae bechgyn Geraint Williams eisoes wedi ennill dwy gêm yn erbyn Bwlgaria a Lwcsembwrg, yn ogystal â chael gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn y prif ddetholion Denmarc.

Ond fe fydd yn rhaid i Gymru geisio trechu Armenia, sydd ar waelod y grŵp, heb yr amddiffynnwr Gethin Jones sydd wedi anafu bawd ei droed.

‘Dechrau da’

Ar ôl herio Armenia ym Mangor heddiw fe fydd Cymru’n croesawu Rwmania i’r Cae Ras yn Wrecsam ddydd Mawrth.

Ac fe fydd gan Gymru syniad gwell o’r her sydd yn eu hwynebu nhw wrth geisio cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop unwaith y bydd gemau’r wythnos hon wedi cael eu chwarae.

“Rydyn ni wedi cael dechrau da ac mae hwn yn wythnos bwysig i ni. Ar ôl y gemau hyn fe fyddwn ni wedi chwarae pawb yn y grŵp ac fe fyddwn ni’n gwybod lle rydyn ni’n sefyll,” meddai Geraint Williams.

“Ond dyna’r oll yw e ar hyn o bryd, dechrau da – felly wnawn ni ddim meddwl gormod am y peth eto.”

Bydd y gic gyntaf rhwng Cymru ac Armenia am 2.00yp yn Stadiwm Prifysgol Bangor, Nantporth.

Carfan dan-21 Cymru:

Billy O’Brien (Man City), Michael Crowe (Ipswich)

Declan John (Caerdydd), Jordan Evans (Fulham), Joseph Wright (Huddersfield, ar fenthyg yn Accrington Stanley), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Josh Yorwerth (Ipswich, ar fenthyg yn Crawley), Osian Jones (Abertawe)

Josh Sheehan (Abertawe, ar fenthyg yn Yeovil), Lee Evans (Wolves, ar fenthyg yn Bradford City), Ryan Hedges (Abertawe), Tom O’Sullivan (Caerdydd, ar fenthyg yng Nghasnewydd)

Wes Burns (Bristol City), Ellis Harrison (Bristol Rovers), Harry Wilson (Lerpwl, ar fenthyg yn Crewe), Jake Charles (Huddersfield), Liam Shephard (Abertawe), Louis Thompson (Norwich, ar fenthyg yn Swindon).