Mae disgwyl i Tom Lawrence ddechrau yn erbyn yr Iseldiroedd heno (llun: David Davies /PA)
Fe fydd ambell un o’r ymosodwyr sydd ar gyrion tîm Cymru yn cael cyfle i greu argraff ar y rheolwr Chris Coleman heno wrth i’r tîm herio’r Iseldiroedd fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Ewro 2016.

Yn absenoldeb Gareth Bale, Aaron Ramsey, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes a David Cotterill mae disgwyl i flaenwyr fel Tom Lawrence, Jonny Williams a Simon Church ddechrau’r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond mae Coleman wedi dweud yn barod y bydd yn dewis ei dîm cryfaf posib ar gyfer yr ornest, gan olygu ei bod hi’n annhebygol y caiff chwaraewyr fel Tom Bradshaw gêm o’r cychwyn.

Fe allai Bradshaw ymddangos o’r fainc i ennill ei gap cyntaf rywbryd yn ystod y gêm fodd bynnag, gyda’r amddiffynnwr Adam Henley a’r golwyr Owain Fôn Williams a Danny Ward hefyd yn gobeithio gwneud yr un peth.

Pod Pêl-droed Golwg360 – Cymru v Iseldiroedd:

Lle ar yr awyren

Mae’r amddiffynnwr Ben Davies wedi disgrifio’r gêm heno fel dechrau’r frwydr rhwng y chwaraewyr er mwyn ceisio sicrhau eu lle yn y tîm ac yn y garfan fydd yn mynd i Ffrainc ar gyfer yr Ewros ym mis Mehefin.

Dyw’r un peth ddim am fod yn wir am eu gwrthwynebwyr heno, fodd bynnag, gyda’r Iseldiroedd wedi methu â chyrraedd y twrnament er iddyn nhw ddod yn drydydd yng Nghwpan y Byd ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Mae disgwyl y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn ar gyfer yr ornest gyfeillgar heno, gyda bron pob un o’r 33,000 tocyn eisoes wedi cael eu gwerthu.

Gunter yn hafal â Giggs

Mae Cymru wedi colli pob un o’r saith gêm maen nhw wedi chwarae yn erbyn yr Iseldiroedd, gan gynnwys gêm gyfeillgar yn Amsterdam ym mis Mehefin 2014 o 2-0 y tro diwethaf i’r ddau dîm gyfarfod.

Ond mae bechgyn Chris Coleman, fydd yn gwisgo eu cit newydd am y tro cyntaf heno, yn llawn hyder ers sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn dilyn canlyniadau mis Hydref.

Fe fydd Chris Gunter, aelod mwyaf profiadol y garfan er gwaethaf y ffaith mai dim ond 26 oed ydi o, yn dod yn hafal â Ryan Giggs ar 64 cap dros Gymru os caiff ei ddewis i wynebu’r Iseldirwyr.

Ond fe allai goliau fod yn broblem i’r Cymry – yn sgil yr anafiadau i rai o’u prif ymosodwyr, does neb yn y garfan sydd â mwy na thair gôl ryngwladol.

Bydd y gêm rhwng Cymru a’r Iseldiroedd yn cael ei dangos yn fyw ar BBC2 Cymru, gyda’r gic gyntaf am 7.45yh.

Tîm posib Cymru (3-4-2-1): Hennessey; Chester, A Williams, Davies; Gunter, Allen, Ledley, Taylor; J Williams, Lawrence; Church