Shaun Edwards a Warren Gatland
Mae hyfforddwr Cymru Shaun Edwards wedi cyfaddef y gallai ddychwelyd i rygbi’r gynghrair “rhyw ddydd”, wrth i ansicrwydd ynglŷn â’i ddyfodol barhau.

Ers cael ei benodi i’w rôl fel hyfforddwr amddiffyn tîm rygbi’r undeb Cymru o dan Warren Gatland mae Edwards wedi gwneud enw i’w hun ac wedi denu clod mawr am ei waith â’r chwaraewyr.

Ond mae ei gytundeb presennol gydag Undeb Rygbi Cymru yn dod i ben ymhen ychydig wythnosau, a hyd yn hyn nid yw wedi cytuno i aros yn rhan o dîm hyfforddi Gatland.

Mae hynny wedi tynnu sylw timau eraill, gyda rhai sylwebwyr yn awgrymu y gallai hyd yn oed fod yn rhan o staff hyfforddi newydd Lloegr yn dilyn ymadawiad Stuart Lancaster.

‘Pwy a ŵyr?’

Mae cyn-seren tîm rygbi’r Saeson Will Carling eisoes wedi galw ar Undeb Rygbi Lloegr i benodi Edwards fel is-hyfforddwr o dan adain rhywun fel Jake White, gyda’r gobaith y gallai wedyn gymryd y brif swydd ar ôl Cwpan y Byd 2019.

Dyw cyn-hyfforddwr Wasps heb ymateb i sïon ynglŷn â thimau eraill o fewn rygbi’r undeb allai fod ar ei ôl.

Er ei fod wedi bod yn hyfforddwr rygbi’r undeb ers 15 mlynedd bellach, yn rygbi’r gynghrair y gwnaeth Edwards ei farc fel chwaraewr ac fe ddywedodd ei fod yn dal i ddilyn y gamp yn agos.

“Mae’n bosib y dof i nôl rhyw ddydd, pwy a ŵyr?” meddai wrth gael ei urddo i Oriel yr Enwogion Rygbi’r Gynghrair.

“Rydw i mewn trafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru ar hyn o bryd ynglŷn ag ymestyn fy nghytundeb ond pwy a ŵyr, yn y dyfodol mae’n bosib y byddai gen i ddiddordeb dychwelyd.”