Jonathan Davies yn arwyddo i'r Scarlets (Llun: Scarlets)
Mae’r Scarlets wedi cadarnhau heddiw y bydd eu cyn-gapten Jonathan Davies yn dychwelyd i’r rhanbarth ar ddiwedd y tymor ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru (URC).
Fe arwyddodd ‘Jon Fox’ dros Clermont yn Ffrainc llynedd gan chwarae yn y tîm a gyrhaeddodd ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop ym mis Mai.
Ond mae’r canolwr wedi penderfynu dychwelyd i’r rhanbarth ble dechreuodd ei yrfa broffesiynol unwaith y bydd y tymor hwn ar ben.
Davies yw’r 17fed chwaraewr i arwyddo cytundeb canolog rhwng URC ac un o’r rhanbarthau, fel rhan o’r ymgais i gadw talent rygbi gorau’r wlad yng Nghymru.
‘Penderfyniad gorau’
Fe chwaraeodd Davies, sydd bellach yn 27 oed, 119 o gemau dros y Scarlets mewn wyth mlynedd gan sgorio 38 o geisiau, cyn symud i Clermont yn 2014.
Mae ganddo hefyd 48 cap dros Gymru, ond fe fethodd Cwpan y Byd eleni ar ôl anafu’i ben-glin wrth chwarae dros ei glwb yn gynharach yn y flwyddyn.
“Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yn Ffrainc yn fawr ac fe hoffwn ddiolch i Clermont Auvergne am y cyfle,” meddai Jonathan Davies wrth gyhoeddi ei fod yn dychwelyd i Gymru.
“Mae’r cytundeb rhwng URC a’r rhanbarthau yn anelu am lwyddiant ac rydw i’n teimlo mai dyma’r amser iawn i ddod nôl i Gymru, ac arwyddo cytundeb deuol yw’r penderfyniad gorau i mi o ran fy rygbi.”
Yr 17 chwaraewr sydd bellach wedi arwyddo cytundebau deuol ag URC yw Alun Wyn Jones, Dan Biggar, Rhys Webb, Dan Baker, Rory Thornton, James King, Scott Baldwin, Dan Lydiate (Gweilch), Scott Williams, Jake Ball, Samson Lee, Rhodri Jones, Jonathan Davies (Scarlets), Tyler Morgan, Hallam Amos (Dreigiau) Sam Warburton a Gareth Anscombe (Gleision).