Tomos Gwynedd (Llun: S4C)
Athro o Gaernarfon wnaeth ennill swydd fel arweinydd awyr agored ar raglen antur Ar y Dibyn S4C, wrth i’r gyfres ddod i ben neithiwr.
Bydd Tomos Gwynedd yn gweithio yng Ngwersyll Glan Llyn yr Urdd yn y Bala am flwyddyn ar ôl dod yn gyntaf o blith saith o gystadleuwyr eraill.
“Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn y rhaglen yn fawr,” meddai.
“Ac rwy’n teimlo’n lwcus fy mod i wedi cael y cyfle i brofi’r gwahanol weithgareddau.”
Yn ystod y gyfres roedd yr ymgeiswyr yn gorfod meistroli hwylio, canŵio, dringo a beicio mynydd.
Roedd y beirniaid, yr arweinydd antur Dilwyn Sanderson-Jones a’r cyflwynydd a’r anturiaethwr, Lowri Morgan, hefyd yn chwilio am rywun oedd â’r cymeriad a’r sgiliau arwain i’w gwneud hi fel arweinydd antur.
Mae’r athro hefyd yn ennill taith i Fynyddoedd yr Atlas, Moroco, sydd wedi’i threfnu gan bartneriaeth rhwng Cwmni Da, cynhyrchwyr y rhaglen, a Good Charity Challenge.
Partneriaeth S4C a Sony
Cafodd y gyfres ei chynhyrchu gan Cwmni Da yng Nghaernarfon ar y cyd â Sony Pictures Television ac S4C yn dilyn partneriaeth a gafodd ei ffurfio gyda’r nod o ddatblygu fformatau i gael eu hyrwyddo a’u gwerthu ar y farchnad ryngwladol.
“Llongyfarchiadau gwresog i Tomos am ennill Ar y Dibyn. Un o fanteision mawr y bartneriaeth gyda Sony yw gwneud y gorau o’r hyn sydd gan ddiwydiannau creadigol i’w gynnig ac i arddangos Cymru ledled y byd – a does dim dwywaith fod Ar y Dibyn wedi llwyddo yn hynny o beth,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C.
“Pob lwc i Tomos yn y dyfodol ac rydym yn edrych ymlaen at weld y bartneriaeth hon gyda Sony Pictures Television yn mynd o nerth i nerth.”
Dirprwy Weinidog yn llongyfarch
Mae Ken Skates, Dirprwy Weinidog Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi llongyfarch Tomos Gwynedd hefyd:
“Wrth i ni edrych ymlaen at Flwyddyn Antur 2016, rwyf wrth fy modd bod Ar Y Dibyn wedi dod o hyd i enillydd teilwng a fydd yn hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig fel cyrchfan antur a bydd hefyd yn ysbrydoli llawer o blant i roi cynnig ar rywbeth newydd a chymryd rhan mewn anturiaethau newydd.”