Craig Owen o fudiad Cymru dros Heddwch, a Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad
Fe fydd llyfr sydd yn cofnodi Cymry fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei ddigideiddio fel rhan o brosiect mudiad heddwch sydd hefyd yn gobeithio casglu straeon y rheiny gollodd eu bywydau ganrif yn ôl.
Bwriad y prosiect rhwng mudiad Cymru dros Heddwch a’r Llyfrgell Genedlaethol, gafodd ei lansio yn y Cynulliad yr wythnos hon, yw rhoi Llyfr y Cofio sydd ag enwau 35,000 o’r rheiny fu farw yn y Rhyfel Mawr rhwng 1914 ac 1918 ar-lein.
Mae disgwyl i’r gwaith gymryd hyd at chwe mis, gyda’r gobaith y bydd gwaith gorffenedig yn adnodd i bobl allu dysgu mwy am beth ddigwyddodd i’w teuluoedd a phobl o’u hardal nhw yn ystod y rhyfel.
Cafodd ACau a gweithwyr yn y Cynulliad gyfle i gyfrannu at y gwaith trawsgrifio cychwynnol, ac unwaith bydd y gwaith digideiddio wedi’i wneud fe fydd modd i bobl ychwanegu gwybodaeth am gyndeidiau a pherthnasau ato.
Cyfraniadau eang
Mae’r prosiect yn rhan o waith Cymru dros Heddwch, sydd wedi’i hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, yn edrych ar gyfraniad y Cymry tuag at geisio creu heddwch yn y ganrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn ôl pennaeth y mudiad Craig Owen fe fydd y prosiect hefyd yn defnyddio gwybodaeth oddi ar gofebion rhyfel a ffynonellau eraill er mwyn ceisio creu darlun llawnach o hanes y Cymry yn ystod y rhyfel gan gynnwys milwyr, merched aeth i weithio yn y ffrynt, a’r rheiny wnaeth ymwrthod rhag ymladd.
Dros y misoedd nesaf fe fyddan nhw hefyd yn gofyn am gymorth gwirfoddolwyr er mwyn trawsgrifio’r enwau yn y llyfr yn ogystal â chyfrannu eu gwybodaeth nhw.
“Cafodd prosiect Cymru dros Heddwch ei sefydlu yn gyntaf i gysylltu’r Llyfr â phobl Cymru, achos o dyna ble maen nhw’n dod yn y bôn,” esboniodd Craig Owen wrth Golwg360.
“Yn ail rydyn ni eisiau ei ddefnyddio nid yn unig i edrych nôl ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ond i edrych ymlaen at sut mae pobl Cymru wedi cyfrannu at heddwch yn y ganrif ers hynny, a pha fath o bethau fyddai Cymry’r can mlynedd nesaf yn hoffi ei greu.”