Galeri, Caernarfon
Bydd sinema dwy sgrin annibynnol cyntaf Gwynedd a Môn yn cyrraedd canolfan gymunedol Galeri yng Nghaernarfon wrth i’r fenter ehangu.
Mae’r cwmni Galeri Caernarfon Cyf wedi cael £260,000 gan y Cyngor Celfyddydau a Llywodraeth Cymru er mwyn buddsoddi i ddatblygu cynllun i adeiladu sinema dwy sgrin yno.
Bydd cynllun terfynol y sinema yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno o fewn y chwe mis nesaf, dan arweiniad pensaer adeilad Galeri, Richard Murphy.
Gofod ychwanegol ‘yn anghenraid’
“Rydym wedi treulio llawer o amser yn edrych ar ddichonoldeb o’r ochr adeiladu a busnes cyn cyrraedd y cam yma,” meddai Prif Weithredwr Galeri, Gwyn Roberts.
Ac mae’n dweud bod cael y gofod ychwanegol mewn canolfan sy’n cynnal tua 450 o ddigwyddiadau’r flwyddyn “yn anghenraid… er mwyn datblygu’r rhaglen theatr a’n rhaglen sinema,” gan nad oes modd “datblygu unrhyw beth” oherwydd diffyg capasiti.
“Byddai cael dwy sgrin newydd yn rhyddhau’r brif theatr am 90+ diwrnod pob blwyddyn. Er bod cryn dipyn o ffordd i fynd, ein gobaith yw cychwyn adeiladu yn 2017 ac agor yn 2018,” ychwanegodd Gwyn Roberts.
Bydd yr estyniad yn cynnwys sinema 120 o seddi ac un â 80 o seddi, a’r gobaith yw dangos y ffilmiau diweddar masnachol yn syth wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau, a rhyddhau’r theatr ar gyfer mwy o gynyrchiadau, llogwyr preifat a chynadleddau.
Cynlluniau mawr eraill
Y cam cyntaf yn y broses fydd datblygu’r caffi a’r bar, a bydd hyn yn digwydd ym mis Ionawr, er mwyn “agor yn llawn gyda bwydlen newydd sbon cyn y Pasg.”
A bydd £150,000 yn cael ei fuddsoddi ar gynllun goleuo newydd, llawr a bar newydd a gosod ffenestri bi-fold fydd yn agor allan i ardal eistedd newydd sbon fydd yn edrych allan ar Doc Victoria.
“Fel menter gymdeithasol, rydym wastad yn edrych ar syniadau er mwyn gwella ein sefyllfa fasnachol,” meddai Gwyn Roberts.
Fe gadarnhaodd y cwmni y byddan nhw’n parhau ar agor yn ystod y gwaith adnewyddu.
Daw £165,000 o Gyngor Celfyddydau Cymru a £95,000 o gronfa adfywio Llywodraeth Cymru.