Gallai dirwyn y cynllun saib swyddi – neu ffyrlo – i ben yn rhy gynnar ladd unrhyw obaith o adferiad cyn iddo ddechrau, yn ôl undebau llafur.

O heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 1), bydd cyfraniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r cynllun yn gostwng, gyda chyflogwyr yn gorfod talu gwerth y gostyngiad.

Yn ôl Gary Smith, ysgrifennydd cyffredinol undeb GMB, mae’n rhaid i ‘feddwl agored’ y Llywodraeth ddod yn realiti er mwyn sicrhau nad yw’n effeithio’n ormodol ar yr adferiad ôl-Covid.

“Gallai dirwyn y cynllun ffyrlo i ben yn rhy gyflym ladd adferiad cyn dechrau,” meddai.

“Yn hytrach na’n gyrru ni oddi ar ddibyn ffyrlo yn ddiweddarach eleni, dylai’r Llywodraeth roi cefnogaeth barhaus i gyflogwyr sydd ei hangen – yn enwedig yn y sectorau hynny sydd wedi’u difrodi gan y pandemig.

“Proses yw ein hadferiad ni, nid digwyddiad.

“Mae gweinidogion dan argraff gwbl anghywir os ydyn nhw’n credu y gallwn ni fynd yn ôl at ein busnes yn ôl ein harfer yn sydyn.”

Uno’r Undeb yn ategu’r rhybudd

Yr un yw neges Uno’r Undeb.

“Mae diwydiannau megis y diwydiant hedfan, y diwydiant modurol a lletygarwch yn dal ar y rhaffau, wedi’u bwrw’n galed gan gyfnodau clo dro ar ôl tro, tarfu ar y gadwyn gyflenwi a phenderfyniadau anghyson gan y llywodraeth, a dyna pam ein bod ni wedi dadlau erioed fod angen i gynllun ffyrlo’r Deyrnas Unedig gyfateb i’r gwledydd sy’n gystadleuwyr i ni a pharhau tan o leiaf gwanwyn 2022.

“Mae’r wlad wedi buddsoddi biliynau i gadw pobol mewn gwaith yn barod ar gyfer adferiad, ond os yw gweinidogion yn tynnu’r carped o dan fusnesau’n rhy fuan, bydd swyddi’n mynd a bydd ein buddsoddiad cenedlaethol arwrol yn mynd yn wastraff.”