Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Carl Chinnock, dyn 50 oed, yn dilyn ymosodiad ym Mhorthcawl.

Fe fu farw yn yr ysbyty ar Fehefin 25, ddau ddiwrnod ar ôl iddo gael ei gludo i’r ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl i’r heddlu ddod o hyd iddo mewn maes parcio ag anafiadau difrifol i’w ben.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad iddo ddioddef ymosodiad difrifol.

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio yn cael ei holi yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.

Dywed yr heddlu fod teulu Carl Chinnock yn cael eu cefnogi gan blismyn arbenigol

“Rydyn ni’n gwybod fod Carl wedi mynd i mewn i’r maes parcio o ochr traeth Coney,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“O’n hymholiadau, rydyn ni hefyd yn gwybod fod yna bobol yn ardal y maes parcio cyn ac ar ôl canol nos ar y nos Fercher honno – fy neges i iddyn nhw yw i gysylltu â ni ar unwaith gan ei bod hi’n bosib fod ganddyn nhw wybodaeth hanfodol.”