Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfeydd unwaith eto dros yr haf, am y tro cyntaf ers dros flwyddyn.

Fe fydd yr arddangosfeydd yn ailagor ar ddydd Llun (Gorffennaf 19), a bydd rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.

Yn ogystal â chael cyfle i weld Oriel Gregynog, sydd wedi cael ei hadnewyddu’n ddiweddar, bydd tair arddangosfa arall ar gael i’w gweld yn yr orielau.

Bydd eitemau newydd yn cael eu harddangos yn barhaol ar lawr gwaelod y Llyfrgell yn ardal Peniarth hefyd.

Yr arddangosfeydd

Un o’r arddangosfeydd fydd Byd Llenyddol Paul Peter Piech, sy’n ddathliad o berthynas y gwneuthurwr printiau Americanaidd â Chymru a llenyddiaeth.

Er bod Paul Peter Piech yn fwyaf adnabyddus am ei bosteri gwleidyddol, mae cyfran o’i waith yn ymwneud â’r byd llenyddol.

Treuliodd ddegawd olaf ei fywyd ym Mhorthcawl, lle parhaodd i weithio a chael ei ddylanwadu gan ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg, ac mae’r arddangosfa yn gyfle i ddathlu ei gyfraniad i gelf weledol yng Nghymru.

Yn arddangosfa’r ffotograffydd Nick Treharne, Portread o Gymru, bydd modd gweld ugain delwedd o’r Gymru fodern.

Ers 2018, gweledigaeth y ffotograffydd oedd adeiladu portffolio o fywyd yng Nghymru, o ddigwyddiadau a thraddodiadau i bortreadau o’r cymeriadau mae e wedi cwrdd â nhw wrth deithio’r wlad.

Bydd yr arddangosfa Ar Bapur yn gyfle i weld nifer o brintiadau, lluniau dyfrlliw, gludweithiau, llyfrau braslunio a pheintiadau rhai o artistiaid amlycaf Cymru.

Gyda phynciau’r gwaith yn amrywio o archwilio gweithredu gwleidyddol, hiliaeth a bywyd ffoaduriaid i bynciau fel y ffurf ddynol a byd natur, bydd yr arddangosfa’n cynnig cipolwg ar y gweithiau ar bapur sy’n rhan o gasgliadau’r Llyfrgell.

Croeso “twymgalon”

“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at fedru croesawu’r cyhoedd yn ôl i ymweld â’n harddangosfeydd,” meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

“Er bod y Llyfrgell wedi parhau i fod ar agor yn ddigidol trwy gydol y cyfnodau clo a darllenwyr wedi medru dychwelyd i’r adeilad i weithio, rwy’n ymwybodol iawn bod nifer yn awyddus i fedru ymweld eto â’r Llyfrgell i fwynhau gwledd ein casgliadau arbennig.

“Er y bydd yr amgylchiadau yn gorfod bod ychydig yn wahanol er mwyn diogelu pawb, bydd y croeso’r un mor dwymgalon ag erioed.”

Mae modd archebu tocynnau ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol, a bydd siop y Llyfrgell a Chaffi Pendinas ar agor hefyd fel rhan o’r ymweliad.