Mae Gwasg Honno ar fin cyhoeddi Cyfrinachau, unig nofel y bardd Eluned Phillips, ac un sy’n adlewyrchu rhai o’i phrofiadau go-iawn ar y cyfandir yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn y gyfrol hefyd mae cerdd a ddaeth yn ail i’w cherdd hi ei hun ar gyfer cystadleuaeth Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1967, ‘La Môme Piaf’. Hyd yma, Eluned Phillips yw’r unig fenyw i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn 1967 a 1983.