Mae GAP, siop ddillad ar y stryd fawr, wedi cyhoeddi y bydd yn cau pob siop yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon erbyn diwedd 2021.

Dywed y cwmni eu bod yn bwriadu mynd â busnes ar-lein “fesul cam” o ddiwedd mis Awst hyd at ddiwedd mis Medi eleni, ac y bydd yn rhoi “cymorth” i weithwyr ar ôl cau’r siopau, er nad yw’n nodi faint o weithwyr sy’n cael eu heffeithio.

Mae gan y cwmni siopau yn y Deyrnas Unedig ers 1987 ac yng Ngweriniaeth Iwerddon ers 2006, ac mae ganddyn nhw gyfanswm o 81 erbyn hyn, gan gynnwys un yng Nghymru, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad strategol, gyda’r nod o “ddod o hyd i ffyrdd newydd, mwy cost-effeithiol o gynnal presenoldeb a gwasanaethu cwsmeriaid yn Ewrop”.

“Yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop, rydyn ni’n mynd i gynnal ein busnes gap ar-lein,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

“Mae’r busnes e-fasnach yn parhau i dyfu ac rydym am gwrdd â’n cwsmeriaid lle maen nhw’n siopa.

“Rydyn ni’n dod yn fusnes digidol yn gyntaf ac rydyn ni’n chwilio am bartner i helpu i yrru ein busnes ar-lein.

“Oherwydd deinameg y farchnad yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, fe wnaethom rannu gyda’n tîm heddiw ein bod yn bwriadu cau pob siop Gap Specialty a Gap Outlet yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon fesul cam o ddiwedd mis Awst drwy ddiwedd mis Medi 2021.”

Dirywiad y stryd fawr

Daw’r newyddion ar ôl i gyfres o siopau’r stryd fawr gau eleni, gan gynnwys brandiau fel Dorothy Perkins, Wallis a Burton.

Bu’n rhaid i fwy na 200 o siopau ar draws y brandiau gau, gyda thros 2,000 o swyddi’n cael eu colli ym mis Chwefror.

Bydd y manwerthwr bwyd a dillad Marks & Spencer hefyd yn cau mwy o siopau ar ôl cael eu taro’n galed gan y cyfyngiadau symud.

Dywedodd y cwmni ym mis Mai eu bod nhw’n bwriadu cau 30 yn rhagor o siopau.

Maen nhw eisoes wedi cau neu symud 59 o siopau, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cyflymu newidiadau i’w portffolio o siopau yn sgil effaith y pandemig.