Mae un o aelodau amlyca’r DUP yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi ei ymadawiad ar ddiwrnod cynta’r arweinydd newydd Syr Jeffrey Donaldson yn ei swydd.

Mae Alex Easton wedi gadael y blaid ar ôl 21 o flynyddoedd, ac fe fydd e’n parhau i fod yn aelod annibynnol.

Yn ei ddatganiad, dywedodd cynrychiolydd Gogledd Down fod yna ddiffyg “parch, disgyblaeth a gweddusrwydd” o fewn y blaid a bod hynny’n un o’r rhesymau y tu ôl i’w benderfyniad.

Daw ei ymadawiad ar ôl misoedd o ansicrwydd i’r blaid, gyda rhaniadau amlwg yn ymddangos wrth i Arlene Foster gamu o’r neilltu cyn i’w holynydd Edwin Poots bara tair wythnos yn unig yn y swydd.

Fe wnaeth Poots guro Syr Jeffrey Donaldson yn y ras arweinyddol.

Mae’r DUP hefyd wedi colli sawl cynghorydd blaenllaw yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Yn ôl Alex Easton, mae ei ymadawiad yn achosi “tristwch mawr a loes” iddo, ac mae’n “un o’r pethau mwyaf anodd” mae e wedi’i wneud.

Mae’n dweud iddo wylio’i gydweithwyr “yn rhwygo’u hunain yn ddarnau, yn briffio yn erbyn cydweithwyr ac yn rhedeg i’r cyfryngau er mwyn brifo’i gilydd yn ddyddiol”.

“Does dim parch, disgyblaeth na gweddusrwydd, dw i jyst wedi cael digon,” meddai, gan ychwanegu fod y ddwy ochr o fewn y blaid ar fai am y sefyllfa.

‘Uno’r blaid’

Wrth baratoi i ddechrau yn ei swydd, dywedodd Syr Jeffrey Donaldson wrth bwyllgor gwaith y DUP ei fod yn addo uno’r blaid ar ôl wythnosau cythryblus.

Mae e hefyd wedi galw ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i ddatrys Protocol Gogledd Iwerddon.

Cafodd ei benodiad sêl bendith y pwyllgor gwaith ddoe (dydd Mercher, Mehefin 30).

Fe oedd yr unig ymgeisydd i gyflwyno’i enw ar gyfer yr arweinyddiaeth.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld heno yw ein plaid yn dod ynghyd, yn gwella, yn uno, yn edrych tua’r dyfodol ac yn tynnu llinell o dan yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol,” meddai neithiwr.

“Mae yna nifer o heriau o’n blaenau ond dw i’n hyderus nawr y bydd y DUP yn wynebu’r heriau hynny gyda’n gilydd.

“Fe fu tipyn o drafod, dw i wedi treulio amser dros y dyddiau diwethaf yn siarad yn dawel bach â chydweithwyr, gan gynnwys Edwin.

“Mae pethau wedi cael eu dweud wrth ein gilydd, gan gydnabod y loes a gafodd ei achosi.

“Dw i’n credu bod hynny wedi bod yn dda, mae wedi bod yn gathartig i’r blaid a dw i’n credu bod yna benderfyniad unedig nawr.

“Mae yna ddyhead i uno, i gyd-dynnu, oherwydd mewn undod mae nerth.”