George Osborne
Dylai’r Canghellor George Osborne ohirio’i gynlluniau i dorri credydau treth am flwyddyn, ac fe ddylai dderbyn na fydd modd iddo wneud cynifer o doriadau ag y dymunai, yn ôl pwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan.

Fe fu’n rhaid i Osborne greu pecyn o fesurau i leihau’r effaith ar deuluoedd ers colli pleidlais bwysig yn Nhŷ’r Arglwyddi, ond mae aelodau seneddol yn rhybuddio bod rhaid iddo newid ei gynlluniau.

Dywedodd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau nad oes “bwled hud” i amddiffyn gweithwyr ar gyflogau isel rhag cael eu heffeithio gan doriadau gwerth £4.4 biliwn i gredydau treth, ac fe gyhuddon nhw’r Trysorlys o wrthod datgelu gwybodaeth am effaith y toriadau ar wahanol grwpiau yn y gymdeithas.

Effaith ar deuluoedd’ 

Mae cynlluniau arfaethedig Osborne yn debygol o gostio £1,100 i’r teulu cyffredin ac mae’r pwyllgor yn rhybuddio na fydd nifer o deuluoedd yn gallu fforddio’r fath doriadau.

Mae disgwyl i Osborne drafod ei gynlluniau ymhellach yn ei Ddatganiad Hydref ar Dachwedd 25.

Ymhlith y mesurau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Canghellor yw cynyddu’r lwfans treth incwm personol a’r cyflog byw.

Mae’r mesurau’n golygu mai’r isafswm fyddai’n rhaid i unigolyn dderbyn fel cyflog cyn talu’r dreth incwm yw £11,000, ond fe allai’r unigolyn hwnnw golli credydau treth os yw’r teulu’n ennill cyfanswm o gyn lleied â £3,850.

Bydd teuluoedd un rhiant a chanddyn nhw ddau o blant ac sy’n gweithio 35 awr yr wythnos yn cynyddu eu hincwm net o £323 y flwyddyn, gan golli £1,701 mewn credydau treth.

Traean yn unig o’r rheiny fyddai’n cael eu heffeithio gan y credydau treth fyddai ar eu hennill o’r cyflog byw.

Ond mae’r pwyllgor yn rhybuddio na ddylid ystyried y mesurau hynny fel iawndal am dorri’r dreth credydau.

Mae disgwyl i’r toriadau i gredydau treth ddod i rym fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi gwrthod cynlluniau i newid y drefn o gyfrannu at yswiriant gwladol.

 ‘Oedi’

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, yr aelod seneddol Llafur Frank Field y dylid cyflwyno system newydd yn lle credydau treth.

“Does neb wedi gallu rhoi cyfres o bolisïau wrth gefn derbyniol i’r pwyllgor i fynd i’r afael ag effaith toriadau i’r dreth credydau.

“Fy nghyngor i’r Canghellor fyddai oedi a defnyddio’r 18 mis nesaf i weddnewid credydau treth fel rydyn ni’n eu hadnabod nhw.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Mae’r Canghellor eisoes wedi egluro y bydd y Llywodraeth yn gwrando ynghylch sut i symud i’r cyflog uwch, treth is a’r economi les is y mae am ei gweld, ac fe fydd yn cyhoeddi cynigion ynghylch sut i wneud hynny yn Natganiad yr Hydref.”