Mae ymchwilwyr yn yr Unol Daleithiau yn ceisio darganfod pam fod awyren fechan wedi taro i mewn i fflatiau yng ngogledd ddwyrain Ohio.
Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn ceisio dod o hyd i gyrff y rhai oedd ar yr awyren yn y rwbel.
Dywedodd perchennog yr awyren bod yr Hawker H25 yn cludo naw o bobl pan daro i mewn i’r adeilad yn Akron ddydd Mawrth. Roedd wedi gadael Dayton gyda’r bwriad o lanio ym maes awyr Akron Fulton, tua dwy filltir o safle’r ddamwain.
Dywed yr awdurdodau nad oedd unrhyw un ar yr awyren wedi goroesi ond nid ydyn nhw wedi cadarnhau faint o bobl oedd ar ei bwrdd ar y pryd.
Nid oedd unrhyw un yn yr adeilad pan ddigwyddodd y ddamwain.