Mae’r SNP a’r Blaid Werdd yn ystyried cytundeb i gydweithio’n ffurfiol, yn ôl y prif weinidog Nicola Sturgeon, sy’n dweud y gallai trefniant o’r fath gynnig manteision “sylweddol” i’r Alban.

Mae’n dweud bod trafodaethau ar y gweill ers etholiadau Holyrood ddechrau’r mis, a bod y ddwy blaid yn awyddus i symud i “gam nesaf” y trafodaethau hynny.

Ond mae’n dweud nad yw “cyd-destun, graddau na sgôp” y cydweithio wedi cael ei gytuno eto, ac y byddai’n ddibynnol ar brosesau cydsyniad y Cabinet a’r ddwy blaid.

“Ond mae gan yr hyn rydyn ni’n gobeithio’i gyflawni y potensial i dorri tir newydd,” meddai.

Serch hynny, mae’n dweud bod risg y gallai’r trafodaethau ddod i ben heb gytundeb ond “trwy gydweithio, gallwn ni adeiladu dyfodol gwell i’r Alban”.

Atal refferendwm annibyniaeth arall ‘yn annemocrataidd’

Yn y cyfamser, mae Nicola Sturgeon yn gwadu y byddai cynnal refferendwm annibyniaeth arall yn “annemocrataidd”.

Dywed fod “mwyafrif sylweddol” o blaid refferendwm arall, gan fod gan yr SNP a’r Blaid Werdd 72 o seddi rhyngddyn nhw.

“Ni all fod yna unrhyw gyfiawnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros geisio rhwystro’r mandad hwnnw,” meddai.

“Felly byddai gwneud hynny’n awgrymu nad yw’r Torïaid bellach yn ystyried y Deyrnas Unedig yn undeb o genhedloedd o’u gwirfodd”.

“Ac fe fyddai’n gwbl annemocrataidd.”