Mae Ben Lake wedi gofyn i Boris Johnson ddiwygio rheoliadau fel bod staff y Gwasanaeth Iechyd a gofalwyr yn derbyn bonws llawn o £500 fel ‘diolch’.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Mai 26), fe wnaeth Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion feirniadu’r Prif Weinidog am “gosbi” staff y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol sy’n derbyn credyd cynhwysol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhaglen o gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal, gan roi un taliad o £735 ar gyfer gweithwyr cymwys llawn a rhan amser.

Ar ôl tynnu treth, bydd y rhan fwyaf o bobol yn derbyn £500.

Fodd bynnag, mae Ben Lake wedi tynnu sylw at y ffaith fod staff sy’n derbyn Credyd Cynhwysol am gael eu “cosbi gyda gostyngiad o 63% i’w Credyd Cynhwysol”.

Fe wnaeth e hefyd alw ar Lywodraeth Cymru i wthio am ddatganoli pwerau llesiant, fel y gallai’r polisi gael ei gyflwyno’n llawn.

“Cosbi”

“Mae disgwyl i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru dderbyn bonws o £500 fel cydnabyddiaeth o’u gwaith caled yn ystod y pandemig,” meddai Ben Lake yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Ond bydd gweithwyr ar Gredyd Cynhwysol yn methu allan yn sgil y ffordd mae’r wobr yn cael ei chydnabod mewn rheoliadau fel incwm wedi’i ennill.

“Yn hytrach na derbyn bonws diolch ar ddiwedd y mis, bydd nifer o staff y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cosbi gyda gostyngiad o hyd at 63% yn eu Credyd Cynhwysol.

“A wneith y Prif Weinidog edrych ar ddiwygio Rheoliad 55 o’r Rheoliadau Credyd Cynhwysol er mwyn creu eithriad er mwyn sicrhau fod staff y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn elwa’n llawn o’r bonws haeddiannol?”

Angen “deffro”

Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson y byddai’n “gwneud yn siŵr fod [Ben Lake] yn cael cyfarfod gyda’r gweinidog perthnasol er mwyn egluro’r manylion ynghylch y mater”.

“Dw i’n ddiolchgar am y cynnig i gael cyfarfod i drafod y mater,” meddai Ben Lake ar ôl y sesiwn.

“Yn anffodus, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi mynnu bod y bonws yn cael ei drin fel enillion hyd yn hyn, ac felly ni fydd yn cael ei eithrio.

“Roeddwn i’n gobeithio y byddai ymyrraeth y prif weinidog heddiw yn sicrhau bod eu safbwynt yn cael ei ailystyried.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddeffro i’r angen brys i ddatganoli pwerau dros lesiant i Gymru.

“Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn methu â newid eu safbwynt, rhaid i’r prif weinidog sylweddoli mai drwy gael y pwerau hyn yn y Senedd yn unig y gallwn ni gyflwyno polisïau cyson a fyddai’n gwella bywydau pobol yng Nghymru.”