Mae un ymhob tri pherson yng Nghymru wedi’u heffeithio gan yr argyfwng tai, yn ôl Shelter Cymru.

Mae eu hymchwil yn dangos bod dros filiwn o bobol yng Nghymru yn byw mewn tai sy’n anniogel neu’n anfforddiadwy.

Yn sgil yr ystadegau, mae Shelter Cymru yn lansio brwydr dros gartrefi da, ac yn dweud mai nawr yw’r amser i wleidyddion a phleidiau ddod at ei gilydd i weithredu.

Mae’r ystadegau yn cynnwys popeth o deuluoedd sy’n cael eu gorfodi i ddewis rhwng talu rhent neu brynu bwyd, i rentwyr sy’n byw mewn cartrefi llawn tamprwydd, llwydni, a diffyg gwaith atgyweirio.

Yn ôl Shelter Cymru, mae’r ystadegau “brawychus” yn dangos maint yr her sy’n wynebu Llywodraeth Cymru, ac yn dangos pam y dylai cartrefi da fod yn flaenllaw yn yr ymrwymiad i ailgodi’n gryfach a thecach.

Yr ymchwil

Mae’r ymchwil yn dangos bod:

  • bron i un ymhob 10 person wedi gorfod torri’n ôl ar nwyddau hanfodol fel bwyd neu wres er mwyn gallu fforddio talu rhent neu forgais.
  • un ym mhob chwech yn dweud na allan nhw gadw eu cartref yn gynnes yn y gaeaf.
  • bron i un ym mhob 10 yn byw mewn tai nad ydyn nhw’n strwythurol ddiogel, neu sydd â pheryglon megis nam trydanol neu dân.
  • un ym mhob pedwar yn byw mewn cartrefi gyda lleithder, llwydni, neu broblemau cyddwysedd.
  • un ym mhob 10 yn dweud bod eu cartref presennol yn niweidiol i’w hiechyd meddwl, neu iechyd meddwl eu teulu.

Yn ogystal, mae’r ymchwil yn dangos mai pobol ar yr incwm isaf sy’n cael eu heffeithio waethaf gan yr argyfwng tai.

Mae hynny’n aml yn cynnwys pobol mewn grwpiau ethnig lleiafrifol, pobol ag anableddau, aelodau o’r gymuned LHDT, a phobol â nodweddion gwarchodedig eraill, meddai’r ymchwil.

Daeth yr ymchwil i’r casgliad hefyd fod tua 120,000 o bobol wedi cael eu rhwystro rhag cael cartref addas yn sgil rhagfarn.

Galwadau 

Mae Shelter Cymru yn galw ar bleidiau i ddod at ei gilydd a gweithredu yn lleol ac yn genedlaethol gan adeiladu o leiaf 20,000 o dai cymdeithasol newydd o ansawdd da, a helpu’r miloedd sydd wedi cael eu prisio allan o rentu neu brynu.

Maen nhw hefyd am i wleidyddion sicrhau nad yw teuluoedd sy’n cael eu gwthio i ddigartrefedd yn gaeth i lety dros dro, ac nad oes neb yn cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd.

“O leiaf 54 o broblemau”

“Pan symudon ni i’r fflat yn ystod y pandemig, wynebon ni o leiaf 54 o broblemau naill ai o ran cynnal a chadw neu atgyweiriadau oedd angen eu gwneud yn y cyfnod hwnnw,” meddai Merlin Hayward o Gasnewydd, a gafodd ei orfodi o’i gartref gan ei landlord ychydig ddyddiau cyn i’w bartner roi genedigaeth.

“Roedd y sŵn o’r fflat uwchben yn annioddefol ar adegau pan symudon ni fewn gyntaf. Roedd y carped yn eithriadol o frwnt, ond roedd y landlord yn gwrthod ei lanhau.

“Roedd dŵr yn gollwng drwy’r nenfwd yn y lolfa, roedd y ffwrn wedi torri, roedd twll llygoden yn yr ystafell ymolchi, ac mae’r rhestr yn parhau.

“Ddeuddydd ar ôl ymateb i gais gan y landlord am restr gyflawn o’r holl broblemau oedd yn y fflat, dywedwyd wrthym am adael.

“Dyma’n syml yr achos mwyaf amlwg o droi allan dialgar credaf ei bod yn bosib dod ar ei draws, ac roeddem yn sâl o feddwl am y pwysau ychwanegol ar fy mhartner a’r plentyn yn y groth”.

“Cartref yw popeth”

“Yn Shelter Cymru, rydym yn gwybod mai cartref yw popeth,” meddai Ruth Power, y prif swyddog gweithredol.

“Mae’r ymchwil hwn yn dangos yr heriau a wynebodd gymaint o bobl yng Nghymru yn ystod y pandemig.

“Ond yn anffodus dydy’r heriau hyn ddim yn newydd – maent yn broblemau hirdymor sydd angen gweithredu beiddgar ac uchelgeisiol i’w datrys.

“Cartrefi da yw sylfaen ein bywydau ni i gyd. Maent yn caniatáu i bobl fynd i’r gwaith bob dydd heb boeni ynghylch beth fyddan nhw’n dod gartref iddo. Maent yn caniatáu i blant ffynnu yn yr ysgol.

“Maent yn rhoi i ni’r cysur, diogelwch a sicrwydd sy’n hanfodol i fywydau iach, hapus a chynhyrchiol.

“Mae ein hymchwil yn dangos graddfa a difrifoldeb yr argyfwng tai yng Nghymru, ac yn dangos bod angen gweithredu brys.

“Dros y teuluoedd sy’n mynd heb fwyd i gadw to uwch eu pen; dros y rhentwyr sy’n cael eu bygwth gyda throi allan oherwydd bod Covid wedi eu gwthio i ddiweithdra; dros y genhedlaeth o bobl ifanc na fydd byth yn gwireddu’r freuddwyd o rentu neu brynu eu cartref eu hunain – bydd Shelter Cymru bob amser yn brwydro dros gartref, a thros bawb sydd heb un.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, fe wnaethon ni fuddsoddi record o £2bn mewn tai fforddiadwy, gan ein helpu ni i gyfarfod, a mynd tu hwnt i’n targed i greu 20,000 o dai fforddiadwy yn yr amser hwnnw,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd Deddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 yn ei gwneud hi’n orfodol i bob landlord sicrhau fod yr eiddo y maen nhw’n ei rentu yn addas ar gyfer byw ynddo, gan fynd i’r afael â’r amodau gwael mewn rhai eiddo.

“Bydd hyn yn cynnwys ei gwneud hi’n orfodol i landlordiaid sicrhau fod gan bob eiddo larymau mwg a charbon monocsid, a’u bod nhw’n cael eu harchwilio’n gyson ar gyfer diogelwch trydanol.

“Rydyn ni’n edrych tuag at adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol, carbon isel newydd nawr, a byddwn ni’n cyhoeddi manylion pellach yn fuan.”