Mae dyn a dynes wedi cael eu harestio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn fflat yn Weymouth yn Swydd Dorset fore Sul.
Daeth yr heddlu o hyd i’r corff am oddeutu 8 o’r gloch, ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad i’w lofruddiaeth.
Mae’r crwner wedi cael gwybod.
Cafodd dau ddyn a dynes eu hanafu yn y digwyddiad ac maen nhw’n derbyn triniaeth.