Mae mam y milwr Lee Rigby, a gafodd ei lofruddio gan Foslemiaid yn 2013, yn gobeithio addysgu plant ysgol am beryglon eithafiaeth.
Cafodd ei mab ei lofruddio ger barics yn Woolwich gan Michael Adebolajo a Michael Adebowale yn 2013.
Cafodd Sefydliad Lee Rigby ei sefydlu er cof amdano, a dywed ei fam, Lyn Rigby ei bod yn gobeithio y byddai’n “waddol” iddo.
Dywedodd wrth bapur newydd y Daily Mirror: “Os gallaf fynd i mewn i ysgolion gyda’r sefydliad a dysgu’r neges gywir iddyn nhw, fe fyddai’n waddol syfrdanol i Lee ac un y byddai’n gefnogol iddi.
“Hefyd, rwy am i sefydliad fy mab gynnig cefnogaeth go iawn i bobol fel fi yn eu hawr dywyllaf.
“Pan wnaethon ni ei golli, doedd gen i neb i droi ato.”