Aung San Suu Kyi
Mae etholiad cyffredinol hanesyddol yn cael ei gynnal yng ngwlad Myanmar, a allai arwain at fuddugoliaeth i’r wrthblaid o dan arweinyddiaeth Aung San Suu Kyi.
Gallai buddugoliaeth i’w phlaid, y Gynghrair Ddemocrataidd Genedlaethol, fod yn ergyd drom i rym y fyddin yn y wlad.
Dyma’r tro cyntaf i Aung San Suu Kyi bleidleisio mewn etholiad cyffredinol, gan ei bod hi yn y ddalfa yn ei chartref yn ystod y 1990au ac yn 2010.
Mae mwy na 90 o bleidiau’n cymryd rhan yn yr etholiadau, ac mae disgwyl i fwy na 30 miliwn o bobol bleidleisio.
Byddai buddugoliaeth i Aung San Suu Kyi yn golygu y byddai’r wlad gam yn nes at sicrhau democratiaeth go iawn.
Ond mae gan y fyddin 25% o 664 o seddi’r senedd, a dim ond buddugoliaeth fawr – a mwyafrif sylweddol – i’r wrthblaid fyddai’n lleihau eu grym.
Yn dilyn yr etholiad, fe fydd tri ymgeisydd yn cael eu henwebu ar gyfer yr arlywyddiaeth – un yn dod yn arlywydd a’r ddau arall yn is-arlywydd.
Ond nid oes hawl gan Aung San Suu Kyi fod yn arlywydd gan fod cyfraith y wlad yn atal unrhyw un sy’n briod â thramorwr gymryd y swydd.