Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae ffrae o fewn y Blaid Lafur ar ôl i’r arweinydd Jeremy Corbyn ddatgan ei gefnogaeth i’w ymgynghorydd polisi sydd wedi cael ei ddiarddel dros dro o’r Blaid Lafur.

Dywed fod ganddo bob hyder yn Andrew Fisher er ei fod yn wynebu achos disgyblu ar ôl cwynion iddo ymgyrchu dros blaid o’r enw Class War yn erbyn yr ymgeisydd Llafur yn ei etholaeth yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Roedd Andrew Fisher hefyd wedi datgan llawenydd o weld cyn-ganghellor yr wrthblaid, Ed Balls, yn colli ei sedd, ac wedi disgrifio mainc flaen y cyn-arweinydd Ed Miliband fel “the most abject collection of complete shite”.

Mae Jeremy Corbyn wedi cael ei feirniadu gan gyn-gadeirydd y blaid Lafur Seneddol, yr Arglwydd Soley, am gyflogi dyn mor ddadleuol.

“Does arnon ni ddim eisiau pobl sy’n lladd ar ymgeiswyr Llafur a dweud wrth bobl am beidio â phleidleisio i Lafur,” meddai.

“Rydyn ni’n bradychu’r bobl a bleidleisiodd i Lafur yn y gobaith o gael llywodraeth Lafur. O fynd ymlaen fel hyn, byddwn yn dal i gadw’r Ceidwadwyr mewn grym.”

Livingstone yn amddiffyn Corbyn

Un arall sydd wedi ymuno yn y ffrae yw cyn-faer Llundain, Ken Livingstone, sydd wedi diystyru’r gŵyn yn erbyn Andrew Fisher fel “nonsens llwyr”.

Mae’n cyhuddo Aelodau Seneddol cefnogol i Tony Blair o geisio tanseilio arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

“Does gan yr ASau sy’n gyrru hyn ddim diddordeb neilltuol yn yr unigolyn yma, yr hyn y maen nhw’n ceisio’i wneud yw tanseilio’r arweinydd sydd newydd gael ei ethol ac mae hyn yn gwbl annerbyniol,” meddai.

“Os ydych chi’n un o’r ASau Llafur Newydd sy’n credu mai llywodraeth Blair oedd pinacl gwareiddiad dynol, rhaid ichi ddygymod â’r ffaith fod y blaid wedi symud ymlaen.”