Mae Heddlu Caerloyw yn chwilio ar safle caffi yn dilyn awgrym y gallai corff merch 15 oed fod wedi’i chladdu yno gan Fred West.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai corff Mary Bastholm fod wedi’i gladdu ar safle caffi Clean Plate yno.

Cawson nhw eu galw yno ddydd Gwener (Mai 7) gan gwmni teledu sy’n ffilmio rhaglen ddogfen am Fred a Rose West.

Aeth Mary Bastholm ar goll ar ei ffordd i ddal bws i fynd i weld ei chariad ym mis Ionawr 1968.

Bu farw Fred West yn y carchar yn 53 oed yn 1995, ac roedd e’n cael ei amau o fod â rhan yn ei diflaniad.

Ynghyd â’i wraig Rose, fe wnaeth Fred West arteithio, treisio a llofruddio nifer fawr o fenywod dros gyfnod o ugain mlynedd.

Mae’r heddlu’n archwilio’r safle ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i’r ymchwiliad cychwynnol bara rhai wythnosau.

Fe fu Peter, brawd Mary Bastholm, yn galw ar Rose West cyn ei farwolaeth i ddatgelu beth oedden nhw wedi ei wneud iddi.

Mae lle i gredu bod Fred West wedi cyfaddef wrth ei fab ei fod e wedi ei lladd hi, ond wnaeth e ddim cyfadde’r drosedd wrth yr heddlu.

Fe fu’r heddlu’n chwilio am ei chorff yng nghartref Fred a Rose West yn 1994.