Mae swyddog heddlu a wnaeth sylwadau hiliol tuag at ddyn ifanc digartref tra’r oedd hi wedi meddwi wedi’i chael yn euog o gamymddwyn difrifol.

Fe wnaeth Molly Parr weiddi gair hiliol sy’n dechrau gydag “N” ar ddyn oedd yn gofyn am arian tu allan i dafarn y Brewhouse yng Nghaerdydd yn ystod parti gadael un o’i chydweithwyr.

Daeth gwrandawiad i’r canlyniad fod y cyn-swyddog gyda Heddlu Gwent wedi ymosod ar ei phartner ar lafar ac wedi defnyddio “iaith afiach ac ymosodol” ar Fedi 4, 2019, pan nad oedd hi’n gweithio.

Fe wnaeth y swyddog cyflwyno ar ran Heddlu Gwent ddweud wrth y gwrandawiad fod Molly Parr yn sefyll y tu allan i fwyty pitsas pan wnaeth “dyn ifanc du ddweud rhywbeth rhywiol” wrthi, ac fe wnaeth hi ateb gyda’r sylw hiliol.

Dywedodd Molly Parri wedyn ei bod hi’n ailadrodd y gair a ddefnyddiodd y dyn ifanc, ond dangosodd recordiad wedyn nad oedd hynny’n wir.

Yn ddiweddarach yn y noson, mae’n debyg ei bod hi’n “emosiynol iawn, yn crio, ac yn amlwg wedi meddwi”.

Y sylwadau

Yn ôl y swyddog cyflwyno, Jonathan Walters, roedd hi’n “gwrthod gwrando” pan geisiodd cydweithwyr ei phwyllo, ac “fe wnaeth [Parr] sylw hiliol arall”.

Mewn cyfweliadau fe wnaeth Molly Parr wadu defnyddio’r gair hiliol mewn “ffordd ddirmygus”, a’i bod hi’n ei ddefnyddio “er mwyn esbonio beth ddywedodd y dyn ifanc du wrthi, ac felly, nid oedd yn hiliol”.

Roedd fideo CCTV o’r noson yn dangos Molly Parr a chydweithwraig yn sefyll tu allan i’r dafarn am tua 9 o’r gloch y noson honno ac yn fuan wedyn, cyrhaeddodd dyn oedd yn ymddangos yn ddigartref a gofynnodd am arian gan yfwyr.

Dangosodd y fideo y dyn yn siarad gyda Parr a’i chydweithwraig, ac roedd y Ditectif Cwnstabl Kelly Perry yn dweud ei bod hi’n ymddangos fod gan y dyn “acen Birmingham”, a bod Molly Parr wedi dweud “nad oedd o’n dod o Gymru” ac y dylai “fynd yn ôl”.

Dywedodd y Ditectif Cwnstabl Kelly Perry fod y dyn wedi ymateb gan ddweud fod gan Parr acen Manceinion.

Ar ail ddiwrnod y gwrandawiad, dywedodd cynrychiolydd y Ffederasiwn fod Molly Parr yn “hynod flin”, a bod hyn “yn wahanol i’w chymeriad”.

Dywedodd nad yw Molly Parr eisiau ymuno ag unrhyw heddlu arall, ac y dylai hi allu “symud ymlaen gyda’i bywyd”.

“Camymddwyn difrifol”

Daeth y panel i’r casgliad ei bod hi wedi torri safonau Heddlu Gwent ar ymddygiad proffesiynol mewn perthynas ag “awdurdod, parch, cydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymddygiad annheilwng”.

Roedd hi’n wynebu cyhuddiad o weiddi a bod yn ymosodol tuag at berson yn gofyn am arian, ac fe wnaeth y panel brofi’r cyhuddiad a dweud ei fod yn gyfystyr â chamymddwyn.

Yn ogystal, roedd hi’n wynebu cyhuddiad o fod yn dreisgar ar lafar, defnyddio “iaith afiach ac ymosodol”, a defnyddio iaith hiliol.

Daeth y panel i’r casgliad ei bod hi’n euog o’r cyhuddiadau, a’u bod nhw gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Mae hi eisoes wedi ymddiswyddo o’r heddlu, a fydd hi ddim yn cael ailymuno â’r heddlu am bum mlynedd.

“Mae ymddygiad Molly Parr, cyn-swyddog gyda Heddlu Gwent, yn mynd yn groes i’r safonau uchel rydyn ni’n eu disgwyl gan ein holl staff – boed ar ddyletswydd neu beidio,” meddai Amanda Blakeman, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent.

“Pe na bai wedi ymddiswyddo o’r heddlu, byddai wedi cael ei diswyddo.

“Does dim lle i’r math yma o ymddygiad, yn arbennig iaith dramgwyddus a threisgar yn cael ei defnyddio gan gyn-swyddog yn Heddlu Gwent.”