Mae dyn wedi ymddangos yn y llys heddiw, wedi’i gyhuddo o ymosod ar fenywod mewn cyfres o ymosodiadau rhyw yn ne Llundain.
Mae Mehdi Midani wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol chwe gwaith a dau achos o ddinoethi yn ardaloedd Clapham a Brixton rhwng Hydref 22 a 31.
Roedd y dyn 27 oed, sy’n wreiddiol o Algeria, wedi ymddangos drwy gysylltiad fideo yn Llys Ynadon Camberwell Green heddiw.
Dilynodd Mehdi Midani yr achos drwy gyfieithydd Arabaidd a siaradodd i gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad yn unig.
Cafodd ei arestio ddydd Llun yn Brixton ar ôl cyfres o ddigwyddiadau ble honnwyd iddo ymosod yn rhywiol ar fenywod rhwng 20 a 30 oed.
Ymosod ar y drws ffrynt
Clywodd y llys fod y dyn wedi ymosod ar rai o’r menywod y tu allan i ddrws ffrynt eu tai a chafodd un ei thargedu yng nghyntedd ei hadeilad.
Cafodd tri dyn arall, 32, 34 a 30 oed eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiadau ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd Mehdi Midani ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Llundain ar Dachwedd 18 ar gyfer gwrandawiad cychwynnol.