Fe fydd gyrwyr Trenau Arriva Cymru yn cynnal streic 48 awr yn  dilyn anghydfod ynglŷn â chyflogau.

Dywedodd undeb RMT y bydd y streic yn cael ei chynnal ar 12 a 13 Tachwedd ar ôl i drafodaethau fethu a dod i gytundeb.

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Mick Cash roedd y cwmni yn “gyndyn” i gynnig codiad cyflog digonol.

Ychwanegodd bod pwyllgor gweithredol yr undeb yn “hynod o anfodlon” gyda’r modd yr oedd y cwmni wedi ymddwyn yn ystod yr anghydfod.