Y Kingsway yn Abertawe
Mae cwest i farwolaeth dyn 37 oed ar ffordd y Kingsway yn Abertawe wedi clywed gan y gyrrwr bws oedd wedi’i daro yn 2013.

Bu farw Daniel Foss wrth groesi’r ffordd brysur yng nghanol y ddinas ar Fedi 24 ddwy flynedd yn ôl.

Dywedodd Steven Davies wrth y cwest fod y Kingsway wedi “bod yn beryglus erioed”.

Ychwanegodd gyrrwr y bws Edwards Coaches ei fod wedi clywed “clec fawr” ac wedi gweld “person yn cwympo ar y ffordd o flaen fy mws”.

“Ro’n i’n gwybod o’r difrod i fy mws… fod rhaid bod y person wedi’i anafu’n ddifrifol.

“Does yna’r un diwrnod yn mynd heibio heb i fi gofio amdano.”

Mewn datganiad, dywedodd Michael Thomas, oedd wedi rhoi triniaeth i Daniel Foss yn dilyn y digwyddiad: “Clywais y bws yn canu’i gorn wrth iddo gyrraedd y groesfan i gerddwyr.

“Rwy’n credu mai damwain oedd hyn a dydw i ddim yn credu y gallai’r bws fod wedi osgoi taro’r dyn. Doedd e ddim yn mynd yn gyflym.”

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod Daniel Foss wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben a’i fod wedi marw yn y fan a’r lle. Roedd olion canabis yn ei gorff.

Dywedodd Victoria Baker ar ran Heddlu’r De fod ‘cerddwyr diofal’ yn gyfrifol am fwy na hanner y gwrthdrawiadau ar y Kingsway rhwng 2006 a 2015.

Cafodd system un ffordd ei chyflwyno ar ôl i’r Sarjant Louise Lucas gael ei lladd ar y Kingsway fis Mawrth eleni.