Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi beirniadu safon gwasanaethau cwsmeriaid yr Adran Cyllid a Thollau.
Yn ôl y pwyllgor, mae’r safon wedi gostwng yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ac mae’r adran bellach yn “fygythiad go iawn i gasglu trethi”.
Hanner y galwadau i’r adran yn unig a gafodd eu hateb yn ystod hanner cyntaf 2015.
Y llynedd, dwy o bob pump o alwadau’n unig a gafodd eu hateb o fewn pum munud y llynedd.
Yn ystod 2014-15, 73% o alwadau a gafodd eu hateb.
Yn 2013, roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi beirniadu safon y gwasanaethau cwsmeriaid gan ddweud eu bod nhw’n “warthus” – a hynny ar ôl i 74% o alwadau gael eu hateb.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Meg Hillier fod rhaid i’r adran “wella ei gwasanaethau cwsmeriaid ar frys”.
Ychwanegodd fod gan y dyn treth “anallu i reoli gwasanaeth boddhaol i bobol sy’n ceisio talu eu siâr”.
Dywedodd y pwyllgor fod safon y gwasanaethau’n “annerbyniol”.
Daeth y pwyllgor i’r casgliad fod pobol yn fwy tebygol o dalu eu trethi os yw safon gwasanaethau’r adran yn dderbyniol.
Ychwanegodd nad oes gan yr adran dargedau o ran gwella’u gwasanaethau o flwyddyn i flwyddyn.
Dywedodd y pwyllgor y dylai’r adran ystyried pa effaith mae gwasanaethau o safon isel yn ei gael ar gasglu trethi, a chreu cynllun i wella safon y gwasanaethau.
Mae’r Adran Cyllid a Thollau’n bwriadu gwella’u gwasanaethau drwy wella’u systemau technoleg, meddai, a hynny’n cynnwys system adnewyddu credydau treth ar-lein.