Mae bachgen 16 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddwyn data gan TalkTalk wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd ei arestio ar ôl i dditectifs o Uned Troseddau Seibr Heddlu Metropolitan a swyddogion yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol ymchwilio i gyfeiriad yn Norwich.

Mae’r bachgen yn ei arddegau – y pedwerydd person i gael ei arestio yn yr achos – wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Mawrth.

Cafodd dyn 20 oed ei arestio yn Swydd Stafford ddydd Sadwrn a chafodd yntau ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Mawrth.

Cafodd bachgen 16 oed o Feltham, Llundain ei gadw yn y ddalfa ar ôl i’r heddlu chwilio  ei dŷ ddydd Iau. Mae e’ wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd bachgen 15 oed o Co Antrim, Gogledd Iwerddon hefyd wedi cael ei arestio ddydd Llun a rhyddhawyd e tan ddyddiad ym mis Tachwedd.

Trydydd tro o achos seibr i TalkTalk eleni

Cawson nhw i gyd eu harestio ar amheuaeth o droseddau o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron.

Dyma’r trydydd troi i’r cwmni telegyfathrebu, TalkTalk gael ei effeithio gan achosion seibr yn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd y cwmni ei bod wedi bod yn destun ymosodiad ‘sylweddol a pharhaol’ ar ei wefan ar Hydref 21, ac roedd pryderon manylion banc miliynau o bobl wedi cael eu dwyn.

Mae TalkTalk wedi dweud erbyn hyn bod y data a gafodd ei hacio yn “llawer yn llai na’r hyn oedd wedi cael ei amau yn wreiddiol” gyda llai na 21,000 o rifau cyfrifon banc a chodau didoli wedi cael eu hagor.