Fe fydd cynghorau’n cael eu gwahardd rhag gweld cofnodion o ddefnydd pobl o’r we o dan gyfreithiau ysbio newydd arfaethedig  sy’n cael eu datgelu heddiw.

Mae disgwyl i’r Ddeddf Pwerau Ymchwiliol drafft orfodi cwmnïau i storio data sy’n gysylltiedig â defnydd pobl o’r we a chyfryngau cymdeithasol am hyd at flwyddyn.

Ond mae wedi dod i’r amlwg y bydd awdurdodau lleol yn cael eu gwahardd rhag cael mynediad at gofnodion cysylltiad rhyngrwyd (ICR) sy’n cynnwys manylion y gwasanaethau cyfathrebiadau mae cyfrifiadur neu ffon yn cysylltu â nhw, ond nid cofnodion pori llawn y defnyddiwr.

Pryderon am breifatrwydd

Mae’r gwaharddiad yn un o nifer o fesurau diogelwch yn erbyn cam-drin pwerau i gael eu cynnwys yn y Mesur mewn ymgais i leddfu pryderon ynglŷn â phreifatrwydd.

Fe fydd trosedd newydd hefyd yn cael ei gyflwyno yn ymwneud a “chael data cyfathrebu yn fwriadol neu’n fyrbwyll gan weithredwr telathrebu heb awdurdod cyfreithlon.”

Mae neuaddau tref yn gallu gwneud cais am ddata cyfathrebu er mwyn atal neu ganfod troseddau.

Maen nhw’n gyfrifol am ymchwilio i ystod o droseddau megis sgamiau sy’n targedu’r henoed, masnachu twyllodrus, troseddau amgylcheddol a thwyll budd-daliadau.

Roedd cyfreithiau a gyflwynwyd y llynedd yn golygu bod yn rhaid i geisiadau cynghorau ar gyfer data cyfathrebu gael eu cymeradwyo gan ynad.

Daeth hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod awdurdodau wedi defnyddio pwerau i ysbïo ar gerddwyr cŵn a oedd yn cael eu hamau o beidio codi baw eu hanifeiliaid, ac achosion o dorri’r  gwaharddiad ar ysmygu.

‘Mesurau diolgelwch’

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: "Weithiau, data cyfathrebu yw'r unig ffordd i adnabod troseddwyr, yn enwedig lle mae troseddau wedi digwydd ar-lein.

"Ond mae'n bwysig bod pobl yn deall bod y data cyfathrebu yn cael ei ddefnyddio yn unig os yw’n angenrheidiol, yn gymesur ac yn atebol.

"Dyna pam mae'r Mesur drafft yn cynnwys mesurau diogelwch cryfach gan ei gwneud yn glir o dan ba amgylchiadau y gall awdurdodau lleol gael gafael ar ddata cyfathrebu - ac yn cadarnhau eu bod yn cael eu gwahardd rhag cael cofnodion cysylltiad rhyngrwyd.”