Victor Ponta, Prif Weinidog Romania
Mae Prif Weinidog Romania Victor Ponta wedi cyhoeddi ymddiswyddiad ei lywodraeth yn dilyn protestiadau ar ôl i fwy na 30 o bobl farw mewn tân mewn clwb nos.

Mewn datganiad dywedodd Victor Ponta ei fod yn ymddiswyddo, ac o ganlyniad bod ei lywodraeth hefyd yn ymddiswyddo.

Mae nifer y meirw yn dilyn y tân yng nghlwb nos Colectiv nos Wener ddiwethaf bellach wedi codi i 32, ac mae 130 yn parhau yn yr ysbyty, dwsinau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Roedd tua 20,000 o bobl wedi protestio ar strydoedd Bucharest nos Fawrth, yn galw am ymddiswyddiad Victor Ponta, y gweinidog Gabriel Oprea, a maer y rhanbarth lle mae’r clwb nos.

Mae gwrthwynebiad i’r llywodraeth yn Romania wedi bod yn cynyddu ers peth amser, gyda nifer yn ei hystyried yn llwgr, ac mae’r tân nos Wener wedi gwaethygu’r sefyllfa.

Dywedodd yr Arlywydd Klaus Iohannis ar ei gyfrif Facebook neithiwr: “Rwy’n deall beth sy’n cael ei ofyn a’r hyn a ddisgwylir, ac maen nhw’n iawn, mae’n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb gwleidyddol.”