Am y tro cyntaf, mae’r mwyafrif o aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio o blaid cyfreithloni priodasau o’r un rhyw.

Serch hyn, ni fydd y gyfraith yn newid o ganlyniad i benderfyniad yr Unoliaethwyr Democrataidd i roi feto ar y bleidlais.

Roedd y “ddeiseb o bryder” a gafodd ei chyflwyno gan y DUP ar ddechrau’r ddadl yn Stormont, Belffast yn golygu na allai’r cynnig lwyddo heb gefnogaeth nifer digonol o Aelodau unoliaethol a chenedlaethol y Cynulliad.

Er nad oedd digon o unoliaethwyr wedi pleidleisio o blaid y cynnig, mae’r mwyafrif cyffredinol (50.5%) wedi cael ei weld fel buddugoliaeth symbolaidd gan ymgyrchwyr dros briodasau o’r un rhyw.

Dyma’r tro cyntaf i’r cynnig gael cefnogaeth y mwyafrif, yn y pumed tro i’r aelodau bleidleisio ar y mater.

Cafodd priodasau o’r un rhyw eu cyfreithloni yng Ngweriniaeth Iwerddon yr wythnos diwethaf, sy’n golygu mai Gogledd Iwerddon yw’r unig ran o’r DU ac Iwerddon lle nad yw’n gyfreithlon.

Rhannu’r farn gyhoeddus

Mae’r mater wedi rhannu’r farn gyhoeddus, gydag ymgyrchwyr tanbaid ar ddwy ochr y ddadl.

Mae ymgyrchwyr dros briodasau o’r un rhyw yn dweud bod y gyfraith bresennol yn mynd yn erbyn hawliau dynol pobl gyfunrywiol tra bod rhai sefydliadau Cristnogol yn dweud na ddylai ‘priodas’ gael ei hail-ddiffinio.

Mae nifer o gyplau o’r un rhyw eisoes wedi mynd â’u hachos i’r Uchel Lys yn Belffast yn y gobaith o sicrhau adolygiad barnwrol.

Yn ystod yr haf, roedd tua 20,000 o bobl wedi gorymdeithio yng nghanol dinas Belffast gan fynnu newid yn y gyfraith.

Yn 2005, Gogledd Iwerddon oedd rhan gyntaf y Deyrnas Unedig i ganiatáu partneriaethau sifil o’r un rhyw.