Mae Thomas Cook yn tueddu i roi costau cyn ei gwsmeriaid, yn ôl adolygiad sy’n ymchwilio i arferion iechyd a diogelwch y cwmni teithio yn dilyn marwolaethau dau blentyn yn un o’i safleoedd gwyliau.

Bu farw Bobby a Christi Shepherd tra ar wyliau yn Corfu gyda’u rhieni ym mis Hydref 2006.

Cafodd y plant, oedd yn chwech a saith oed, eu lladd gan fwg carbon monocsid o foeler diffygiol yng Ngwesty Traeth Louis Corcyra, ar yr ynys wyliau.

Roedd cwest i’w marwolaethau ar ddechrau’r flwyddyn wedi canfod bod y cwmni gwyliau wedi “torri ei ddyletswydd gofal”, a bod y plant wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon.

Ac roedd adolygiad i brosesau rheoli iechyd, diogelwch, lles ac argyfyngau wedi dod at y casgliad bod rhannau o’r busnes yn rhoi blaenoriaethau ariannol cyn anghenion cwsmeriaid.

‘Her’

Yn ôl yr adroddiad, oedd yn cael ei gynnal gan gyn-brif weithredwr Sainsbury’s, Justin King, roedd prosesau’r cwmni ar gyfer argyfyngau neu ddigwyddiadau sydd ag effaith fawr ar gwsmeriaid yn ‘ymddangos i weithio’n dda.’

Ond dywedodd hefyd fod, “canolfannau elw unigol fel y ‘cwmni awyrennau’ ac ‘adrannau lleoliadau’ â thuedd i ddiogelu costau yn hytrach na gwella profiad cwsmeriaid.

“Mae ei ddull yn agosach i ‘Beth yw’r lleiafswm allwn ni wneud i ddatrys y broblem?’ yn hytrach na, ‘Beth ddylwn ni ei wneud i wneud y profiad  mor dda ag y gallwn?’ Mae hon yn her ddiwylliannol cymaint ag yw’n her ariannol.”

Gan ddisgrifio’r berthynas rhwng Thomas Cook a theulu Bobby a Christi Shepherd, dywedodd Justin King nad oedd “penderfyniadau yn aml yn cael eu gwneud yn y ffordd ystyriol a gofalgar y byddech yn ei disgwyl gan gwmni fel Thomas Cook.”

Cyfarfod â rhieni’r plant        

Er bod yr adroddiad wedi beirniadu’r cwmni am ‘beidio ymateb o gwbl’ i gais tad y plant, Neil Shepherd am gyfarfod â’r cwmni, dywedodd Justin King fod prif weithredwr Thomas Cook, Peter Fankhauser, bellach wedi cyfarfod â rhieni’r plant sawl gwaith ers y cwest.

Mae canlyniadau’r cyfarfod yn cynnwys creu elusen garbon monocsid newydd, yr Ymddiriedolaeth Safer Tourism a thalu ffioedd cyfreithiol y teulu.

Mae mam y plant, Sharon Wood hefyd yn cydweithio â Thomas Cook i ddatblygu ‘pecyn cymorth i bobol sy’n galaru’ ac awgrymodd yr adolygiad y dylai hwn gael ei ddosbarthu’n eang ar ôl ei gwblhau.

‘Araf i newid’

Er bod yr adolygiad wedi dweud bod “newid radical” wedi digwydd yn  y cwmni yn y naw mlynedd ers marwolaethau’r plant, dywedodd Justin King fod Thomas Cook yn “araf i newid” ar faterion iechyd a diogelwch.

Serch hynny, dywedodd fod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir a bod y gwaith o newid yn ‘mynd rhagddo’.