Dylid creu deddfwriaeth newydd sy’n cyfyngu ar rym Arglwyddi, yn ôl y cyn-Ganghellor Ceidwadol, Ken Clarke.

Daw ei sylwadau wedi i Lywodraeth Prydain golli pleidlais tros gredydau treth yn Nhŷ’r Arglwyddi’r wythnos diwethaf.

Dylai Aelodau Seneddol gael y gair olaf ar faterion ariannol, gan gynnwys trethi a gwariant, meddai, gan alw ar yr Arglwydd Strathclyde i weithredu hynny.

Cafodd yr Arglwydd Strathclyde ei benodi gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron i arwain adolygiad o rym yr Arglwyddi’n dilyn y bleidlais.

Mae e eisoes wedi awgrymu y gellid newid deddfau seneddol, ond fe ddywedodd mai ateb “eithafol” fyddai hynny.

Mae Ken Clarke wedi cyhuddo’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol o fanteisio ar eu mwyafrif yn Nhŷ’r Arglwyddi er mwyn rhwystro’r toriadau i gredydau treth.

Dywedodd wrth Sky News fod angen “Llywodraeth sy’n gallu gwneud pethau”.

“Dydych chi ddim am gael sefyllfa Americanaidd. Mae’r Eidalwyr hyd yn oed wedi lleihau grym eu senedd i flocio Tŷ’r Cyffredin, oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod fod rhaid i Lywodraeth wneud pethau anodd weithiau.”

Ychwanegodd fod rhaid i Lywodraeth fod yn atebol, ac mai trwy reoli ei pholisi economaidd ei hun y mae sicrhau hynny.

Mae cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yr Arglwydd Ashdown wedi cyhuddo Ken Clarke o fod yn “ddrwg iawn” drwy greu cam-argraff o’r sefyllfa.