Mae pobol yn parhau i anwybyddu cyngor Llywodraeth Prydain a’r teulu brenhinol i beidio â gosod blodau ger cartrefi brenhinol er cof am Ddug Caeredin.
Mae pobol wedi bod yn heidio i Balas Buckingham a chastell Windsor yn dilyn marwolaeth gŵr Brenhines Loegr yn 99 oed ddoe (dydd Gwener, Ebrill 9).
Yn eu plith roedd plant a theuluoedd sy’n mynnu bod rhaid iddyn nhw fynd yno i dalu teyrnged, gyda nifer ohonyn nhw’n gadael blodau, ffotograffau a baneri’r Undeb.
Yn eu plith roedd Nikoletta Peto o Hwngari sydd wedi byw’n lleol ers 15 mlynedd ac sy’n dweud ei bod hi “wirioneddol eisiau dod, er fy mod i, o ganlyniad i Covid, yn cysgodi am fwy na blwyddyn”.
Er gwaetha’r teyrngedau, mae’r cyhoedd wedi cael gwybod y byddan nhw’n cael eu symud o gastell Windsor a Phalas Buckingham yn ystod y dydd heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 10), ac mae’r Palas yn gofyn i bobol roi arian ar-lein yn lle gosod teyrngedau ar eu hystâd.
Mae’r Swyddfa Gabinet hefyd yn atgoffa pobol i barhau i ddilyn cyfyngiadau’r coronafeirws, yn enwedig i beidio â chyfarfod mewn grwpiau mawr a theithio cyn lleied â phosib.