Mae Micheal Martin, Taoiseach Iwerddon, wedi rhybuddio na all Gogledd Iwerddon ddychwelyd i “le tywyll o lofruddiaethau sectaraidd ac anghydweld gwleidyddol” yn dilyn noson arall o drais.

Cafodd 14 o blismyn eu hanafu neithiwr (nos Wener, Ebrill 9), gydag 88 wedi’u hanafu ers dechrau’r gwrthdaro.

Aeth union 23 o flynyddoedd heibio ers Cytundeb Gwener y Groglith, ac mae Micheal Martin yn dweud y dylai gwleidyddion sicrhau nad yw’r wlad yn dychwelyd i ddyddiau’r Trafferthion drachefn.

“Efallai mai ei lwyddiant mwyaf gweladwy yw fod cenhedlaeth o bobol ifanc wedi cael eu magu heb wybod na phrofi’r trais sydd wedi dod gyda’r Trafferthion,” meddai.

“Mae yna ddyletswydd benodol gan y rhai ohonom sydd â’r cyfrifoldeb o arweinyddiaeth wleidyddol i gamu ymlaen a chwarae ein rhan a sicrhau na all hyn ddigwydd.

“Dw i’n benderfynol o gydweithio â Llywodraeth Prydain, y Gweithgor a’r holl bleidiau gwleidyddol i warchod Cytundeb Gwener y Groglith yn ei gyfanrwydd.”

Trais

Fe ddigwyddodd y rhan fwyaf o’r trais yn ardal Coleraine yn Derry, lle’r oedd torf o 40 o bobol wedi ymgynnull i greu blocâd drwy gynnau tanau.

Cafodd bomiau petrol eu taflu at yr heddlu yno a chafodd nifer o’u cerbydau eu difrodi.

Cafodd plismyn eu taro a chafodd car ei roi ar dân yn ardal Tiger’s Bay yng ngogledd Belffast, lle cafodd tri o bobol 14 oed eu harestio a’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Cafodd dau ddyn eu cyhuddo o derfysg yng ngorllewin Belffast yn dilyn digwyddiad arall.

Mewn digwyddiadau eraill, roedd sawl ymgais i gipio ceir oddi ar bobol a’u hanelu at yr heddlu.