Mae’r gwasanaethau brys yn rhybuddio am beryglon neidio i’r môr o gryn uchder (tombstoning) ar ôl iddyn nhw orfod trin dyn 23 oed yn ardal Dinbych-y-pysgod.

Cafodd ei dynnu o’r môr yn anymwybodol ar ôl neidio oddi ar glogwyn, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty i gael asesiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad am oddeutu 6.15 neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 10), a bu’n rhaid i’r RNLI roi CPR i’r dyn.

“Mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at berygl mawr tombstoning neu neidio oddi ar glogwyn, a’r canlyniadau sy’n peryglu bywydau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

“Rydym yn annog pobol i beidio â chymryd rhan yn y math hwn o ddigwyddiad yn unman ar hyd ein harfordir, ac i beidio â rhoi eu hunain neu’r gwasanaethau brys mewn perygl at ddibenion cael gwefr.”