Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhybuddio bod y cynlluniau ar gyfer pentref gwyliau ym Môn yn “fygythiad, nid yn unig i’r Gymraeg ond i hyfywedd ac amrywiaeth yr economi leol”.

Y bwriad yw codi’r pentref gwerth £30m ar hen safle Octel ger Amlwch, gan gynnig llety i hyd at 1,000 o bobol ar y tro a chreu 60 o swyddi newydd.

Mae trafodaethau ar y gweill rhwng ymgynghorwyr ar ran NPL Group, sy’n berchen y safle, a swyddogion Cyngor Môn.

Mae lle i gredu y bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno maes o law.

Daw hyn ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi eisoes i bentref gwyliau gwerth £120m ar hen safle Alwminiwm Môn ger Caergybi, ac mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer hen safle Friction Dynamics ger Caernarfon.

Galw am ‘ymateb yn wyliadwrus’

Wrth ymateb i’r newyddion, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am “ymateb yn wyliadwrus i’r cais” diweddaraf.

“Galwn ar Gyngor Môn ymateb yn wyliadwrus i’r cais hwn, ac ystyried yn ddwys blaenoriaethau’r iaith a’r gymuned,” meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

“Y brif broblem, yn ein barn ni, gyda datblygiadau twristiaeth o’r fath yw’r diffyg budd i’r gymuned leol.

“Dylai mentrau twristiaeth o’r math fod mewn dwylo lleol gyda’r elw a wneir yn cael ei amlgyfeiririo er mwyn creu economi leol sy’n sy’n wydn ac amrywiol.

“Yn y pen draw, ac o ddatblygu’r sector yn ofalus, byddai hyn yn fodd i osgoi’r hyn a wrthwynebwn, sef economi sy’n or-ddibynnol ar dwristiaeth.

“Yn anffodus, ymddengys y byddai’r cynllun hwn yn ecsbloetio’r economi leol a thanseilio ei diwylliant drwy sugno’r elw o ddwylo’r gymuned.”