Mae bridiwr cŵn o Geredigion wedi derbyn dirwy am fethu â chydymffurfio â thrwydded i fridio.

Ar Tachwedd 27 a Rhagfyr 22 y llynedd, clywodd Llys y Goron apêl gan Dorian Wyn Jones, o Dorwan Kennels, Penrheol, Talsarn, yn ymwneud ag euogfarnau am fethu â chydymffurfio ag amodau trwydded i fridio cŵn.

Cyn hynny, yn Llys Ynadon Aberystwyth, cafwyd Dorian Wyn Jones yn euog o gadw gormod o lawer o gŵn fel rhan o’i sefydliad bridio trwyddedig, ac o gadw’r cŵn mewn amodau gorlawn.

Clywodd y Llys ei fod wedi cael trwydded ar gyfer cadw 33 o gŵn.

Fodd bynnag, daeth Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion o hyd i 91 ci, a chŵn bach hefyd, ar y safle ym mis Awst 2019.

Roedd y cŵn yn cael eu cadw mewn llociau oedd yn rhy fach ar gyfer cynifer o gŵn.

Cadarnhaodd Llys y Goron y gollfarn fod y cŵn o dan ofal Dorian Wyn Jones yn cael eu cadw mewn amodau gorlawn, yn groes i’r safonau sy’n ofynnol yn ôl amodau’r drwydded.

Cafodd euogfarnau eraill eu gwyrdroi.

Mae Dorian Wyn Jones wedi cael dirwy o £1,000 am y drosedd o orlenwi, a chafodd orchymyn i dalu costau cyfreithiol gwerth £2500.