Fe fydd yr heddlu yn Ninbych-y-pysgod yn cymryd camau tebyg y penwythnos hwn i’r rhai y gwnaethon nhw eu cymryd dros benwythnos y Pasg, er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.

Fe fuon nhw’n ymateb i bryderon bod grwpiau o bobol ifanc rhwng 15-20 oed yn ymgasglu ac yn gwrthdaro yno.

Bu’n rhaid i’r heddlu fynd ag alcohol oddi wrthyn nhw a’u symud nhw oddi yno cyn i’r gwrthdaro waethygu.

Maen nhw’n rhybuddio y byddan nhw allan yn y dref eto dros y penwythnos, gan gynnwys ar drenau, er mwyn atal y fath ymddygiad rhag digwydd eto.

Pwerau

Aeth yr heddlu ati i ddefnyddio pwerau arbennig yn unol â’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i wasgaru grwpiau o bobol oedd wedi ymgasglu i yfed alcohol o amgylch y dref.

Roedd nifer ohonyn nhw wedi teithio yno ar drenau o lefydd eraill.

Bydd yr heddlu’n cydweithio â swyddogion trwyddedu Cyngor Sir Penfro a’r Heddlu Trafnidiaeth i’w hatal y penwythnos hwn.

Mae Gorchymyn 34 mewn grym yn y dref, sy’n galluogi’r heddlu i symud pobol oddi yno a’u hatal nhw rhag dychwelyd o fewn 48 awr.

Mae’r heddlu hefyd yn gofyn i rieni a gofalwyr sicrhau eu bod nhw’n gwybod ble mae eu plant a beth maen nhw’n ei wneud.