Mae 500 o ffermydd Cyswllt Ffermio yn arwain deng mlynedd o arferion arloesol ym myd amaeth yng Nghymru.

Bydd rheolaeth tir glas ar ffermydd yng Nghymru yn cael ei drawsnewid o fewn degawd, gydag un ffermwr cig eidion yn nodi bod pori cylchdro wedi ‘gweddnewid’ ei fusnes.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae mwy na 20,000 o ffermwyr wedi mynychu dros 1,000 o ddigwyddiadau ar 500 o safleoedd arddangos a safleoedd ffocws Cyswllt Ffermio.

“Newid byd”

Roedd Paul Williams, sy’n cadw buches sugno yn Llanrwst, yn ffermwr arddangos ar ran Cyswllt Ffermio am dair blynedd.

Wrth edrych yn ôl ar ddegawd o ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio, dywedodd Paul William ei fod wedi llwyddo i fwy na dyblu ei gyfradd stoc.

Bellach, mae’n troi ei wartheg i’r borfa dair wythnos ynghynt yn y gwanwyn diolch i dechnegau a gafodd eu gweithredu o ganlyniad i fod yn ffermwr arddangos.

“Mae wedi bod yn newid byd go iawn,” meddai.

“Roedden ni’n gwybod ein bod ni’n gallu tyfu glaswellt, ond rydym ni bellach yn gwneud gwell defnydd ohono.”

Roedd yn un o dri ffermwr arddangos a fu’n cymryd rhan yn y cyfarfod, ynghyd â Richard Roderick o Aberhonddu a Hopkin Evans o Lanilltud Fawr.

‘Ffocws penodol’

Dywed Richard Roderick ei fod wedi gwerthfawrogi’r cyfle i weithio gydag ymgynghorwyr da.

“Rhoddodd hynny ffocws penodol i ni er mwyn ein helpu ar hyd y daith,” meddai.

Ymysg y mentrau y bu Richard yn eu treialu roedd defnyddio gweddillion treuliad anaerobig fel maetholyn.

Arweiniodd hyn at arbediad o £27 yr erw ar nitrogen mewn bagiau, ac mae’n dal i ddefnyddio’r dull nawr.

Cynhaliodd e 17 digwyddiad ar ran Cyswllt Ffermio, gan gynnwys ymweliadau gweinidogol oedd wedi llywio’r gwaith o greu polisïau, gan amlygu rôl ffermwr arddangos fel llysgennad i’r diwydiant.

‘Dibynnol ar ffermwyr arloesol’

Ychwanega Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio a fu’n cadeirio’r weminar, fod arbrofion wedi cael eu cynnal i brofi a oedd technoleg arloesol yn gweithio ai peidio.

“Weithiau, mae’r un mor bwysig i ddangos pethau sydd ddim yn gweithio yn ogystal â’r hyn sy’n gweithio,” meddai.

“Mae ein ffermwyr arddangos yn bobl flaengar iawn sy’n aml yn cymryd risg er mwyn treialu technoleg newydd.”

Mae’n dweud bod eu parodrwydd i gymryd y risg yn gwella eu busnesau ac yn galluogi ffermwyr eraill i elwa o’u canfyddiadau.

“Rydym ni’n gwbl ddibynnol ar ffermwyr arloesol i arddangos cyfleoedd newydd ym myd amaeth,” meddai wedyn.