Mae’r BBC wedi cyhoeddi tudalen ar eu gwefan yn gwahodd pobol i gwyno am y sylw sydd wedi’i roi i farwolaeth Dug Caeredin – tra bod S4C yn cyfiawnhau atal yr amserlen arferol er mwyn dangos rhaglenni teyrnged i ŵr Brenhines Loegr.

Fe fu farw ddoe (dydd Gwener, Ebrill 10) yn 99 oed.

Roedd sianeli teledu’r BBC wedi bod yn dangos rhaglenni newyddion a theyrngedau iddo’n barhaus o ganol dydd tan ddiwedd yr amserlen ar ôl canol nos.

Mae tudalen ar wefan y BBC yn dwyn y teitl ‘Marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Philip, Dug Caeredin – gormod o sylw ar deledu’r BBC’.

“Rydym yn derbyn cwynion am ormod o sylw ar deledu i farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Philip, Dug Caeredin,” meddai neges ar y dudalen.

“Cofnodwch eich cyfeiriad isod i gofrestru cwyn am hyn – yna, byddwn ni’n anfon ymateb y BBC atoch chi unwaith y bydd ar gael.”

S4C

Wrth atal yr amserlen arferol ar S4C, fe wnaeth y sianel ddarlledu bron i chwe awr o raglenni newyddion a theyrnged iddo.

Cafodd y sianel gryn feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, ond maen nhw wedi bod yn cyfiawnhau’r sylw.

Yn dilyn y neges hon, aeth y sianel ati i egluro pam fod cymaint o sylw i’r digwyddiad yn ystod y dydd.

Ymateb S4C

“Roedd marwolaeth Dug Caeredin yn ddigwyddiad o bwys, ac roedd yn iawn fod S4C yn rhoi sylw i’w fywyd a’i farwolaeth,” meddai llefarydd ar ran S4C wrth golwg360.

“Roedd S4C Clic yn parhau i gynnig dewis eang o raglenni a bocs sets S4C drwy’r dydd.

“Bydd amserlen arferol y sianel yn dychwelyd o heddiw ymlaen ond gyda darpariaeth Newyddion estynedig.”